Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceulan y Llyn Du.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fedar neb wneud dim à fo," meddai'r plismon, a byth er hynny y mae o wedi cael ei gadw'n rhwym o hyd."

"Dydi o ddim yn rhwym 'rwan, beth bynnag," meddai'r Arolygydd. "Ydach chi'n meddwl mewn difrif," ychwanegodd, gan droi at Aubrey, "ei fod o wedi ei ollwng yn rhydd yn un pwrpas i ladd John Gwynn?"

"'Does gennyf ddim amheuaeth," atebai Aubrey, "ond y cwestiwn sydd yn fy mhoeni yn awr ydyw a baid o â'n lladd ni? "Tydi'r automatics yma fawr iawn o werth yn erbyn creadur fel yna."

"Y mae gen' i hen service revolver, syr," meddai'r Sarjant. "Taswn i'n cael at 'i ymyl o mi wnai hwnnw dipyn o ôl arno fo . . . Yr argian fawr! Be' sydd 'rwan?

Torrwyd ar y distawrwydd gan sŵn arall, sŵn sydyn, clir ergyd heb fod ymhell oddi wrthynt.

"Y mae rhywun yn saethu efo rifle," meddai'r Sarjant.

Yr oedd y rhuo wedi peidio am ennyd tra'r oeddynt yn siarad, ond fel yr oedd y Sarjant yn sôn am y saethu daeth y sŵn drachefn, gan derfynu mewn math o feichio uchel a oedd yn fwy brawychus yn y tywyllwch hwnnw na hyd yn oed y chwyrniad a oedd i'w glywed o'r blaen. Ac yn sydyn gwelodd y dynion a oedd yn sefyll ar y clawdd cerrig y tarw yn eu hymyl ac yn, union oddi tanynt fel duwch dyfnach yn y duwch a oedd yn gordoi'r traeth. Ond ni chawsant fwy na chip arno.

Taniodd y Sarjant, a deffrodd yr ergyd bob atsain yn y lle agored, gwag hwnnw, a phob aderyn a oedd yn clwydo yn y brwyn a'r morhesg, ond ni effeithiodd