saethu y mae'r tarw hefyd. Clywsom dair ergyd, fe gofiwch ac yr oedd un ohonyn' hw' atom ni."
"Ond pa le y mae Elston, felly?" meddai'r Arolygydd. "Y mae'n rhaid cael hyd iddo cyn iddo wneud rhagor o ddrwg. Williams, ewch chi draw at Benlliw ac ewch a Puw hefo chi..
Torrodd Aubrey ar ei draws cyn iddo roddi ychwaneg o gyfarwyddiadau.
"Maddeuwch i mi, Inspector," meddai, "ond nid wyf yn meddwl y cewch chi hyd i neb ond y gweision arferol ym Mhenlliw heno. Yr oedd yr ysgrech a glywsom yn ymyl, onid oedd?"
Oedd, debyg iawn," meddai'r Arolygydd, "clywsom Morley yn gweiddi pan yn ei deimlo ei hun yn syrthio i'r llyn."
"Efo bwled yn ei dalcen, Inspector?" meddai Aubrey. "Yr oedd yr ergyd gyntaf honno beth amser o flaen y lleill, a'r tebyg ydyw mai honno a laddodd Morley. Ac erbyn meddwl, y mae'n amheus gennyf ai'r tarw a'i taflodd i'r llyn. Y mae'n debyg fod Elston yn meddwl y buasai'r dŵr yn ei guddio am ddigon o hyd iddo fo gael dianc o'r wlad. Ond daliodd dial yntau. Inspector, yr wyf cyn sicred â'm bod yn sefyll yma mai Elston a roddodd y waedd a glywsom."
Llais Elston oedd o, wedi meddwl, syr," meddai'r Sarjant. "Ond ym mh'le y mae'r dyn."
"Edrychwch ar y tarw, Sarjant," meddai Aubrey. Edrychodd y lleill arno mewn syndod, ond pwyntiodd Aubrey ei fflachell at gorff y tarw mawr ar lan y llyn. Ac yna neidiodd yr Arolygydd at y lle.
"Rhowch help," meddai, gan afael yng nghorff yr anifail a llusgo ei orau. Bu'n rhaid i bob un ohonynt dynnu, a thynnu'n galed, i'w symud, ond llwyddasant i wneud hynny o'r diwedd. Oddi tano yr oedd Elston