yn gorwedd yn swp diymadferth, ei wyneb yn waed ac yn gleisiau drosto.
"Y fo aeth i'r trap," meddai Aubrey, yn penlinio wrth ei ochr. "Daliodd y tarw ef cyn gynted ag y taniodd arno, a meddyliodd ei fod yntau'n mynd i'r llyn hefyd. Dyna paham y gwaeddodd. Ni chafodd amser i ddianc; yr oedd y tarw ar ei warthaf pan saethodd."
Ydi o wedi marw?" meddai'r Arolygydd.
"Na," meddai Aubrey, "y mae'n fyw... Rhoddwch y cyffion ar ei arddyrnau, Sarjant. Y mae'n debyg mai'r cwbwl a ddigwyddodd iddo oedd i'r tarw syrthio arno a mynd a'i wynt a briwio'i wyneb."
Griddfanodd y dyn ar lawr, ac fel yr oedd Sarjant Williams yn rhoi'r cyffion ar ei-freichiau ceisiodd godi ar ei eistedd. Griddfanodd drachefn, ac yna agorodd ei lygaid; gwelodd y plismyn yn sefyll o'i gwmpas, a syrthiodd yn ôl ar y ddaear heb ddweud yr un gair.
"Y mae'n dechrau dyddio," meddai Aubrey, gan edrych tua'r dwyrain, lle'r oedd yr awyr yn llwydo ac yn goleuo.
"A dyna ddiwedd ar ein hymchwil am John Gwynn. Dyna ddiwedd hefyd ar gynllwynion Morley ac ar ddrwgweithredoedd Smith. Byddai'n well i chwi a minnau, Inspector, fynd i Benlliw rhag fod yno bethau a fydd yn fuddiol pan ddaw'r ddau ddyn yma i sefyll eu praw." **** Cludodd Puw a'r Sarjant Elston oddi wrth geulan y Llyn Du. Yr oedd wedi goleuo digon bellach iddynt weled Huws ac Wmffra Jones a'u carcharor yn edrych yn bryderus i'w cyfeiriad o ben y dwnan draw, a chyrchasant tuag atynt. Aeth Aubrey a'r Arolygydd