Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ceulan y Llyn Du.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pan welodd eu bod wedi tynnu'r gwaed o'i ddwylaw, a hyd yn oed o'i wyneb, canys yr oeddynt yn ddigon tal i hynny. O'r diwedd cyrhaeddodd at olion yr hen gei; yr oedd y cerrig yn oleuach na'r twf o'u cwmpas, a medrodd ddringo i'r bwlch yn y clawdd yn weddol ddidrafferth. Yr ochr arall yr oedd llwyni o frwyn drachefn, a dywedodd y teithiwr rywbeth yn ddiamynedd pan welodd beth oedd yn ei aros—neu pan deimlodd yn hytrach, canys yr oedd bellach yn rhy dywyll iddo weled fawr iawn.

"Wel, trwy'r brwyn amdani hi," meddai, "neu yma y bydda' i trwy'r nos."

Cyn gynted ag y dywedodd hynny daeth sŵn sydyn o'r tywyllwch ar y chwith; yr oedd yn eglur nad oedd nerfau'r teithiwr yn dda, canys rhoddodd naid a rheg pan redodd rhywbeth bron ar draws ei droed, ac ni thawelodd lawer pan sylweddolodd mai cwningen oedd wedi cychwyn o'i gwâl pan ddaeth ef i aflonyddu arni ac wedi rhedeg yn syth i'w gyfarfod yn ei dychryn.

"Cythraul o le ydi hwn," meddai. 'Roedd o'n ddigon drwg wrth olau dydd, ond y mae o'n ddigon â pheri i ddyn weld bwganod wedi nos fel hyn. Mi fydd yn dda iawn gen' i weled y ffordd fawr a'r car unwaith eto."

Yna dechreuodd ymwthio trwy'r brwyn. Nid oedd wedi myned mwy na llathen pan roddodd ysgrech uchel, ysgrech a oedd yn torri'r distawrwydd trwm fel cyllell. Aeth trwy'r brwyn, a chafodd fod y ddaear yn darfod dan ei draed. Fe'i teimlai ei hun yn llithro i lawr heb allu ei arbed ei hun o gwbl; teimlai ddwfr dwfn yn cau amdano. Rhoddodd un ysgrech, a dyna'r cwbl. Yr oedd y llyn yn ddwfn; yr oedd ei ochrau yn serth; yr oedd y brwyn yn ei guddio. Hyd yn oed liw dydd golau gallai dyn dieithr lithro i'r pwll hallt,