dwfn, bron cyn ei weled, a suddo o'r golwg os na lwyddai yn ei ddychryn i gydio yn y brwyn a oedd yn tyfu hyd at ymyl y geulan. Nid oedd y llyn i'w weled o unman; yr oedd fel trap ynghanol yr anialwch o frwyn, hen lyn tro a adawyd gan y llanw pan ddeuai yn nes at yr hen gei nag y deuai yn awr, ac a borthid o hyd, trwy rigolau a sianelau o'r golwg, gan bob llanw a gyrhaeddai hyd at fin y glastraeth. Prin y deuai neb ar ei gyfyl unwaith mewn blwyddyn; yr oedd allan o'r trawiad, a gwyddai'r cyfarwydd ddigon amdano i gadw'n ddigon pell oddi wrtho, ddydd a nos, ac yn enwedig wedi nos.
Dyfnhaodd y tywyllwch. Dyfnhaodd y distawrwydd hefyd, ar ôl yr un ysgrech honno. Hwyrach nad oedd honno mor uchel; hwyrach, pe buasai ymdeithydd yn croesi'r traeth yr adeg honno ac wedi clywed yr ysgrech y buasai wedi meddwl mai ysgrech cwningen yng ngafael gwenci a glywsai. A phe buasai wedi cymryd digon o ddiddordeb i wrando. ni buasai wedi clywed dim wedyn—dim ond su trymllyd y don dros y dwnan a llef ddistaw, fain, awel y nos yn y brwyn.
A phrin y buasai wedi gweled dim, ychwaith, canys yr oedd yn nos erbyn hyn, os nad oedd ei lygaid wedi hen gynefino â sylwi ar bethau fel gwrychoedd a choed a physt yn erbyn llwydni'r awyr, yr unig ffordd i weled a chael hyd i'ch cyfeiriad yn y fath le yn y tywyllwch. A bwrw bod rhywun wedi gwneud hynny y noson honno—wedi gorwedd ar ei hyd ar lawr y traeth nes cael pob codiad rhyngddo a'r awyr, a oedd yn rhywfaint goleuach na'r traeth ei hun a'r bryniau tywod—gwelsai beth digon annisgwyliadwy.
Dywedwyd fod y post y cyfeiriodd y teithiwr tuag ato yn codi o ganol y brwyn fel braich unig, denau. Yn awr dechreuodd y post hwnnw symud, symud yn