Tudalen:Chwalfa.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Fe fydd y Manijar yno," atebodd Gwyn, gan ddechrau symud ymaith.

"Efalla'. Efalla' na fydd o ddim."

"Yr ydan ni'n mynd i weld, beth bynnag. Tyd, Llew."

"O wel, os ydach chi'n benderfynol o fynd . . . Rhyw hannar milltir i'r Graig Lwyd, a chofiwch gadw i'r chwith yn y fan honno. Craig fawr ydi'r Graig Lwyd, yr un siâp â phen dyn, ac odani hi mae 'na le cynnas, braf. Os daw'r niwl acw i lawr—ac mae arna' i 'i ofn o hiddiw—arhoswch o dan y Graig Lwyd nes bydd o'n clirio. Ac os deil y niwl chi ar y ffordd i'r gwaith copar, trowch yn ôl ac anelu'n syth am y Graig Lwyd. 'Ydach chi'n clywad?"

" Ydan," atebodd Llew.

"Cofiwch chi, 'rwan. Mae'r hen lwybyr acw'n lle peryglus mewn niwl."

Gwyliodd y bugail y ddau'n brysio ymaith. "Bob cam o Lechfaen, Tos," meddai'n dawel wrth y ci, a gwên edmygol ar ei wyneb. "Yr ydw' i'n 'nabod yr hyna' 'na, wsti. Os nad ydi hwn'na'n gweithio yn y chwaral, ym Mhonc Victoria, mi fyta' i fy nghap. Hogyn pwy ydi o, tybad? Rolant Bach? Neu Dafydd Pritch? Neu Edward Ifans? Diawch, hogyn Edward Ifans, efalla'. 'Synnwn i ddim. Ac mae'r ienga' 'na, Gwyn, yr un ffunud â'i dad. Ia, hogia' Edward Ifans, yn siŵr iti. Tyd, mi awn ni'n ôl at y Graig Lwyd, rhag ofn i'r niwl 'na 'u dal nhw."

Brysiodd y ddau fachgen i gyrraedd y graig enfawr wrth y ffordd, ac yna troesant i'r chwith.

"Twt, trio'n dychryn ni yr oedd o," meddai Gwyn.

"'Dydi'r niwl 'na ddim yn symud, 'ydi o, Llew?"

"Wn i ddim. Mae'n anodd deud, fachgan . . . 'Wyddost ti pwy oedd hwn'na?"

"Y dyn 'na?"

"Ia. 'Ron i'n 'i 'nabod o, ond 'wnes i ddim cymryd arna' rhag iddo fo wneud hwyl am ein penna' ni. Dic bugail dyna mae pawb yn 'i alw fo yn y chwaral. —Dyna iti gwffiwr, was!"

"O?"

"Ia." Ysgydwodd Llew ei ben yn ddoeth, ac yna poerodd rhwng ei ddannedd. "'Roedd o yn yr helynt cyn i'r streic dorri allan. Mi'i gwelis i o'n cydio yng ngwar Huws Contractor ac yn 'i daflu o dros wal yr Offis."