Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Cwsg i'm llygaid blin a gaf,
Gorphwys gaiff fy aelodau bach ;
Yn y boreu codi wnaf,
Yn ddiludded ac yn iach:
Grasol yw fy nefol Ri,
Yn gofalu am danaf fi.

Pan yn angau y rhaid myn'd
I'm hoer wely yn y bedd,
Os bydd Iesu i mi'n ffrynd,
Fe gaiff f'enaid fyw mewn hedd;
Grasol yw fy nefol Ri,
Arglwydd cofia am danaf fi.

Chwareuon Plant,

PETH dymunol iawn yw gweled plant yn ddedwydd, Os ceir hwynt yn ddiwyd a chyson gyda'u gwersi, ac yn dychwelyd o'r ysgol neu o neges heb sefyllian a cholli amser, nid oes neb mor afresymol a'u rhwystro i fwynhau eu hunain mewn chwareuon diniwed, gyda phlant rhinweddol a da. Ond y mae yn dygwydd yn fynych fod pethau annymunol yn cymeryd lle mewn cysylltiad â'u chwareuon, a hyny o herwydd eu hymddygiadau fuag at eu gilydd,