gan hyny rhoddir yma ychydig reolau y bydd yn fanteisiol iddynt sylwi arnynt a'u cofio.
1. Ymdrechwch foddhau ereill, a chael boddhad eich hunain.
2. Peidiwch a thramgwyddo wrth bethau bychain
3. Ymgedwch rhag castiau drwg.
4. Na fyddwch am eich ffordd eich hun.
5. Peidiwch a chyffroi tymer neb.
6. Rhoddwch heibio chwareu yn ewyllysgar pan elwir am danoch.
I'r dyben o ymddwyn yn iawn, ymdrechwch feithrin ysbryd caruaidd. Cofiwch fod yr hwn a ddengys yn ei chwareuon a'i gyfeillgarwch ei fod yn teimlo yn dirion, yn meddu ar un o briodoleddau hawddgaraf nodweddiad.
Y Wers Fyw.
(Sef ymweliad Gloyn-byw ag ysgol Mabanod.)
Ar foreu dydd tesog yn nghanol yr haf,
'Roedd gloyn-byw cymysg-liw a hynod o braf,
Yn 'hedeg ar antur ar wyneb y byd,
Yn ol ac ymlaen, ar draws ac ar hyd—