Gwirwyd y dudalen hon
bydd Duw yn gyfaill iti. Fe allai y byddi dad a mam dy wrthod, ac hwyrach y cei y byd yn anialwch digysur, yn llawn drain a phydewau. Ond gall Duw dy ddwyn yn ddyogel trwy dy holl brofedigaethau, a rhoddi i ti yn y diwedd delyn aur a gwisg wên.
Yr Aderyn a'i Nyth.
'RWY'N crefu mewn pryder, hoff blentyn,
Paid dryllio fy nyth bychan clyd;
Paid syllu mewn iddo, 'rwy'n erfyn,
Mae'm cywion bach ynddo i gyd;
Pe gwelent hwy'th lygaid mawr gloyw gerllaw,
Hwy waeddent, rai gwirion, mewn syndod a
braw.
Er cymaint ei flys gwel'd y cywion,
Fe safodd y bachgen nailldu;
'R aderyn i'w nyth aeth yn union,
I dwymno ei dylwyth â'i bly' ;
Ac yna arllwysodd orchestgan ei big,
I'r bachgen mwyngalon o entrych y wig.