Tudalen:Chwedlau'r Aelwyd.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei benodi yn brif ynad, a nesaodd at erchwyn y gwely ac a gusanodd law y brenin; yr oedd ei fab, llanc dwy-ar-bymtlieg oed, yn bresenol ar y pryd. Ar ol hyn cyfarchai ei fab fel hyn: — "Yn awr, hysbysaf i ti ddirgelwch a fydd o werth i ti ei wybod a'i gofio. Mae y dyrchafiadau a'm cyfarfyddodd ar hyd fy oes, yn enwedig y diweddaf hwn, yn ddyledus, nid yn gymaint ar gyfrif unrhyw fedrusrwydd na theilyngdod o'm heiddof i, ond i'm gostyngeiddrwydd, am na ddarfu i mi osod fy hunan uwchben eraill, yn gystal ag i ymdrech gwastadol i fyned trwy y byd yn ddidramgwydd i Dduw a dynion.


Cwyn y Bachgen Du


Ai am fy mod yn Negro
Y caf y fflangell drom ? ,
Gan deimlo'i phwys, dan wres y dydd,
Ar f'ysgwydd deneu, lom.
Mae plant fy massa'n chwareu
Mewn mwyniant o bob bri,
Tra mae ol llafur caled ar
Fy nwylaw duon i;