AR LAN AFON.
Cadwen o Englynion.
MYFYRIAF ar Lan Afon:—yma caf
I'm cyfarch, bur swynion;
Caf fwyn daith—caf fendithion
Oedfeuon hedd, hyd fin hon.
Hyd fin hon bywyd fwynhaf,—tirf Natur
O fy nentu welaf;
Ac, o heirdd goed, cerddi gaf
Ar hyd y fan lle rhodiaf.
Rhodiaf, a mynaf, am enyd—lawn hwyl
I 'nhawelaf ysbryd;
Haedda f'awen gudd fywyd,—
Ca' hedd o fâr cyhoedd fyd.
Byd, o gôl bywyd, gilia—ar y lan
Dyner lonydd yma;
Ofni gwedd Unigedd wna,—
Natur hen a'i trywana.
Trywana stŵr hynaws don—ei ddifudd
A'i ofer amcanion;
Ond aur-fri—mwynder i'w fron,
Fedd trefi 'ddeutu'r afon.
Afon lawn, fyn le, yw hi,—mwynha'i hynt,
Fel mewn hwyl perori:
O'i soniarus, aneiri'
Donau mân, daw hoen i mi.
I mi, hoen yw dymunol—araith hon
Ar ei thaith barhaol;
Rhydd, â'i geiriau hawddgarol
Wers i'r hwn erys ar ol.
Ar ol nis ymdroa hi,—mae rhyw "fynd,"
Er mawr fendith, drwyddi;
Anaddas gwmni iddi
Yw llusgwr llesg ger ei lli.