GWRTHRYCHAU TOSTURI.
GWEL un ar ddigaloni,—gweddw wraig
Ddi—rym mewn tylodi;
A gwêl chwech o'i hamgylch hi'—n amddifaid,—
Bywydau gweiniaid, heb eu digoni.
FY ARDYSTIAD.
NID wyf am fynd i yfed—i dafarn,
Pe'n deifio gan syched;
Ar y gwyliau ceir gweled
Fel y mwynhaf lemonade.
Y FORWYN AFLER.
MENYN ynghanol mwnws,—mawn, a dwr,
Tomen dail a "Begws";
Mae'n y drain ym min y drws
Lon'd het o bilion tatws!
PLWC Y BARDD I'R BAIS GWTA.
WEL, haleliwia lawen,—cwta wisg,
Cwta wallt aflawen;
Ond O! na foed yr hoeden
Gwta'i phais yn gwta'i phen.
WRTH GYFLWYNO SBECTOL I GLANBARLWYD.
GWELD y byd myglyd ymhell, gweld y pwynt,
Gweled pawb yn well—well;
Gweld yr Haf o'i ystafell,
A gweld y wawr mewn gwlad well.
BEDDARGRAFF HEN BOACHER.
MAE'R wningen yn gwenu,—a'r ffesant
Orffwysa nes cysgu;
O'i orwedd dan y pridd du,
Pry genwair sy'n pêr ganu.