Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Chydig ar Gof a Chadw.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

CONWY EDWARDS,
Arweinydd Cor yr Heddlu, Lerpwl.

CONWY EDWARDS, cân ydyw—ef i gyd
Hefo'i gôr uchelryw;
Yn ei swydd hynaws heddyw,
Rhodd ei wlad i'r Heddlu yw.

Arddel ei Gôr Heddlu gwrol—wna barn
Y byd cymdeithasol;
Myn y dref gael mynd ar ol
Gwŷr y Llys—gewri lleisiol.

I Gonwy ddedwydd ddidwrf,—rhown encor
Yn un cu lawendwrf;
Ni bydd cân o bydd cynwrf
O byddo tôn, ni bydd twrf.

Enaid cân ydyw Conwy, a grym mwyn
I'w gôr mawr clodadwy;
I wybren y brif wobrwy
Ei "fatwn" ef a'i tyn hwy.


CWRDDYD D. FRANCIS,
"Y Telynor Dall o Feirion," ar Lanfa Lerpwl.

O LONFYD ar y lanfa!—pa gerddor,
Pwy gwrddais i yma?
Eilun teg—un o blant da,—
Enwog ŵyl telyn Gwalia!

Francis hoff, yr hwn sy' sant,—o ganol
Clogwyni atebant
Iddo fyth yn ddi fethiant
Lafar dôn ei ddi lyfr dant!

Wedi cwrdd am funud cu,—wedi sôn
Am adseiniau Cymru;
Mwyniant oedd ymwahanu—am dymor—
A'r hen Delynor yn dal i wenu.