NEBUCHODONOSOR YN PORI GLASWELLT.
HA! Frenin, ce'st fraw hynod,—gŵr barfog,
A'r borfa'n dygymod;
Buost wychaf, falchaf fod,—
Buost fel y bwystfilod!
******
Ar y maes pan ormeso, anifail
Fo'n nwyfus i'w ruthro;
Gwael yw gwerth ei benglog o,
Heb gorn mae'n debyg arno.
Fe welodd yr anifeiliaid—ei fod
O dan farn felldigaid;
Fe ruodd ef ar y ddôl,
Anianol berchen enaid.
******
O anialwch annuwiolion, y mae
Yn ein mysg ynfydion
Yn aros hyd yr oes hon,—mewn swyddau,—
Sy' fel eidionau yn safle dynion.
FY NARLUN—GYDA DAU GYFAILL.
GLANWEDD a llonwedd yw'n llûn,—bywyd rhydd
Yw bod rhwng dau eilun;
Yr wyf, a phwy warafun,
Yn falch o honof fy hun.
DISTAWRWYDD.
SWYN ni fedd na gwledd i glyw,—ond o'i hun
Daw hedd i ddynolryw;
Duwdod pob mudandod yw,
A cheidwad pob chwa ydyw.
MELLDITH YR OES.
DINISTR ar ddinistr a ddêl,—i'r oes hon
Drwy ei syniad isel;
Bywyd ei byd yw y Bêl,
A'r coupon oriau'r Capel.