Pe gwnaet ag ef fwriadol gam,
Ni lwyddit byth ond hynny. Pam?
Un o hiliogaeth Abraham
Yw f'ewyrth.
FFOEDIGAETH LOT.
FFOI 'roedd Lot i ffwrdd o'i lŷs—a'i ddwyferch
Ddiofid mae'n hysbys;
Daeth o'r fro drwy daith ar frys
Yn ddiangol ymddengys!
O ddrwg nid oedd ei wreigan—yn dewis
Dianc yn ei choban;
Glynai serch y wenferch wan
Yn Sodom wrth "Own Sidan."
Y GWN UN O'R GLOCH.
DYNA'r gwn, dyna awr ginio—ar ben,
Mae'r byd yn ail rwymo
Ei dynn faich, a dyna fo—
Dyna'r dyn a'i war dano.
CORON, CI'R DDUALLT,
A gauwyd ar ddamwain yn Stesion y Dduallt dros nos.
YMA'n isel am noson—o'i ryddid
Gorwedda'r hen "Goron";
Nos o boen mewn eisiau bwyd
A dreuliwyd gyda'r oilion.
Islaw mewn gwely tawel—heb ei drin,
Budur oedd ei gornel;
O! buodd dost, be' ddywed Del
A Ross am ei gyflwr isel.
Ar rhyw hen sach a darn o shawl—e' wnaeth
Ei hun yn gartrefol;
Y lle'i orwedd oedd weddol,
Tan ei ben 'roedd Cotton Ball.