LLADD "NED" Y CI.
I GWILYM, câs fu gweled—y peiriant
Perigl diamgyffred,
Yn taro i lawr yn awr Ned,
Y byrbwyll gi heb arbed.
Ar ei drwyn i'r olwynion—y rhedodd
Y creadur gwirion;
A "Ned y Ci"'r adeg hon
Falwyd yn ei afaelion.
'Roedd Ned yn gyflym redwr,—del ei gam
Diail gi amaethwr;
Dyna loes, gwneud doniol ŵr
O'i gi llwyd yn golledwr.
CRONGLWYD (DYFRDWY).
Dy briod bur a da'i bwyd,—hefo'r ddau
Fardd ieuanc a phenllwyd!
Tithau'n ben llawen, Hugh Llwyd,
Haul athrylith yr aelwyd.
AFON MAENTWROG AR LI MAWR.
HEIBIO'i lwyswych balasau,—a gerddi
Gwyrddion mae'i throadau;
Dofa'i hun i'w hadfywhau—
Gyrr ei gwledd i'r gweirgloddiau.
YN Y PARC.
Os y ddinas sydd enwog—am helaeth
Ymylon blodeuog;
Beth yw dolydd hirddydd ha'
Palestina plwy' Stiniog?
PAR O 'SANAU.
CLOD seiniwn i'r clyd sanau—rhai gwlan hardd,
O'r glin hyd y bodiau;
Gwêad clir i hir barhau,
A chysur traed a choesau.