TY AR OSOD.
Ty ar osod! direswm,—tŷ na chwt,
Ni chawn er ys talwm;
Mae'n warthrudd, ac mae'n orthrwm,
Mynnu rhent am hanner rŵm.
DYCHANGERDD Y "CRITIC."
Ai'r Critic arbennig nodedig mewn dawn
Yw'r unig feidrolyn all feddwl yn iawn?
Mi deimlwn fy hunan yn deilwng o glod,
Pe gallwn ei duchan ef allan o fod.
Y Critic gâr atal y wobor o hyd;
Nid oes yr un gyngan a'i boddia'n y byd;
Efe sydd yn gwybod, ac ef sydd yn dyweyd
Pa beth ydyw englyn, ond, byth yn ei wneud.
Daw'n gyson i'r Moddion yn esgud ei farn
Er mwyn critiseisio y bregeth bob darn;
Arddengys y rhyfyg anferthaf ei faint
Wrth wawdio gramadeg profiadau y saint.
Y Critic, pwy sydd mor ddigwilydd ag ef?
Niweidia emynau hen feirdd sy'n y Nef;
Mae'n gerddor wrth gwrs, a cha'r lleddf fel y llon
Eu blino â'r ymchwydd orleinw ei fron.
Ceiliogod Colegau yw doniau y dyn,
A hanner y Wyddor wrth enw pob un !
Os cyfrin fydd araith rhyw oracl hir wallt,
Mae'r Critic yn ddigon o sgolor i'w ddallt.
Pe troai fy meirniad yn Gritic yn awr,
Mae'n debyg mai fi fyddai'r isaf i lawr;
Ond os yw'n wr grasol—waeth beth am ei radd,
Addefed yn onest,—"Mai'r gwir sydd yn lladd."