Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Chydig ar Gof a Chadw.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GWRTHRYCH TORCALONUS.

O'I lygad amddifadwyd—ein brawd hwn
A'i bryd teg anurddwyd;
Och, ei dirion fraich a dorwyd,
Un llaw fedd i ennill ei fwyd!


TORRWR CYHOEDDIAD.

DYNA ddyn nad yw yn ddall—i wên ffawd
Mewn llawn ffydd a deall,—
Tyr ei gwys yn gyfrwys gall
I bentyrru'r bunt arall.



EIFION WYN.

O HAWDDGAR feirdd, gwiriaf hyn,—er nad wyf
O ran dawn ond gronyn;
Mae yn werth bod yn perthyn
Dafn o waed i Eifion Wyn.


EIFION WYN YN WAEL (1923).

FE laddodd yr hen flwyddyn—Eifionydd,
A f'annwyl Degfelyn;
A'i noeth arf, cyn ei therfyn,
A fynn hi waed Eifion Wyn?



Y RASION.

HAWLIAU teulu ataliwyd,—mae arnom
Oerni ar yr aelwyd;
A phan ddarfyddo annwyd
Bydd yma bawb heb ddim bwyd.



ATEBIAD I'R BARDD COLLWYN.

MOR ddoniol yr ymholi—am Gwilym
Galw pan y mynni;
Dawnsia 'dawen os deui,
Hefo'r Tram hyd Wavertree