Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Chydig ar Gof a Chadw.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dof dan y bwrdd i'th gwrddyd,—di—reol
Yw dy droion hyfryd;
Fe ddaw hwyl rywfodd o hyd
Im'o hobi fy mebyd.

Wiw darllen na 'sgrifennu,—wiw gwneud dim
Egni teg sy'n pallu;
Yr hyn a gâr awen gu
Yw dawn tafod yn tyfu.

Mor ddiolwg, mor ddilun—yw'm papur,
Mae popeth yn wrthun;
Ond ti folaf, wyt f'eilun
Tair oed, llawn natur ei hun.

Diyngan yw'th deganau,―ti falaist
Dy filwyr yn ddarnau;
Onid tost yw'th ganiatau
Fel llofrudd fy holl lyfrau?

Peidiaf â hel, pwy ydwyf fi?—Nanna'n[1]
Unig gaiff dafodi;
Ni chei gam heb dy Fami
Hefo Nain—dy gefn yw hi.

O! fy nelaf anwylyn,—wel, tyred
Ar ol torri 'nghetyn;
Yn y gornel ddi elyn
Fy nghôl gei, fy angel gwyn.

Ni chei fy ngwg na'm grwgnach,—fy nghariad
Am fy ngyrru'n hynach;
Gemau Awen, gei mwyach,—
Derbyn y byd, Robin bach.


SHON IFAN, MAENTWROG,
yn cario gwellt i wneud cwch gwenyn.

DYNA faich, ond nid dan fochyn―y rho'ir
Yr hirwellt teg, melyn;
Fe wna Shon Ifan o hyn
Gannoedd o gychod gwenyn.


  1. Ei Nain.