Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gaed erioed, canys yn y nef a'r ddaiar newydd fe erys cyfiawnder.

Cigf. Ond oni weli dy hunan fod y byd yn myned waeth waeth, a chariad perffaith yn treio?

Er. Na sonia di am gariad perffaith, O! gigfran amherffaith. Beia arnat dy hun yn gyntaf, ac yna mae gobaith o honot. Oni weli di fod yr haul yn cledu'r clai? a pha dwymna y tywynno ar y dommen, brynta fydd: mae'r da yn myn'd well—well ymhob oes erioed, a'r drwg yn mynnu mynd yn waeth-waeth.


Athroniaeth
y Golomen
Cigf. Mae Noah wedi fy ngwrthod i,ac nid gwaeth i mi beth a wnelwyf os . gwrthodedig ydwyf.

Er. Nid efe a'th wrthododd di, ond dydi ai gwrthaist ef, ac a aethost ymmaith. Cariad ac ewyllys da yw efe, ac nid oes dywyllwch ynddo: hawdd ganddo faddeu i'r gwaethaf; anhawdd ganddo ddigio, a gwych ganddo hir-ymaros.

Cigf. Ond mae llawer yn dywedyd i fod ef wedi gwrthod llawer, a dewis rhai cyn i geni.

Er. Mae hyn tu hwnt i'm dysg i: fe alle y gŵyr y golomen y dirgelwch hwn. Beth a ddywedi di?

Col. Anhawdd dywedyd, ac anhawdd deall pa fodd y mae'r dyfnder hwn yn Noah. Ond mi ddarllenaf i chwi yr A, B, C, cyntaf fel hyn. Mae