Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei hun yn ymgyrchu yn wastad i fonwes y Mab, ac yn ymlonyddu yno yn y cariad; ond mae llawer o'r gwreichion heb fynnu ymoeri felly ond yn ehedeg gyda Luciffer yn erbyn y goleuni a'r tawelwch tragwyddol, ac yn aros yn yr yscogiad tanllyd, heb gael esmwythdra byth, eisiau dyfod iw geisio allan o'i naturiaeth ei hunain. Mae gallu yn yr ewyllys i ysgog, ond nid oes mor ewyllys gyda gallu i ddychwelyd (fel y dywad y gigfran o'r blaen ran o'r gwir). Am hynny, mae llawer yn i gwrthod ei hunain, ac yn achwyn ar Noah. Ac er bod i fonwes ef yn i chwennych, mae ei monwes danllyd hwynt yn i dal yn ei teyrnas ei hunain. Ond, O Eryr, os cofi di ofyn ymhellach am hyn, pan fôm ni wrthym ein hunain yn y distawrwydd, mi ddangosaf yn helaethach wreiddyn pob dirgelwch. Ond yr awron dos ymlaen i chwedleua a'r gigfran.


Dau Esboniad.Er. Nid rhyfedd wrth hyn fod llawer yn golledig, os yw pob dyn fel nythod o nadroedd yn llawn o feddyliau cnawdol. Ond beth a ddywaid y från wrth hyn ?

Cigf. Dymma daro at y gwreiddyn. Os drwg gynghorwr, drwg ganlynwr. Os tywyll goleuni rheswm, mae'r holl gorph yn dywyll, a phob gair ar a ddywedais i erioed yn ofer. Ond (om rhan i) rwi'n tybied fod rheswm ymhob peth, ac mai rheswm naturiol yw'r goleuni gorau. Dymma wreiddyn y