Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

pren a blannwyd yn ddwfn. Diwreiddied y golomen ef, os gall.

Col. Mi wn mai dymma Salomon y byd, ond mae yspryd gwirion y golomen yn fwy na Salomon yn ei holl ogoniant ai ddoethineb. Ond i ddangos i ti ddoethineb ddaiarol y frân, ei synwyr hi yw hyn, Dalied pawb ei eiddo, cippied pawb a allo; safed pob dyn ar ei waelod ei hun; na ddyweded mor gwir mewn cariad, ond mewn creulondeb; na ddringed uwchlaw rheswm dyn; canlyned y byd ei arfer ; maged ei naturiaeth, ai gnawd, ai waed, a gwaried ei amser mewn trythyllwch. Bwyttaed ac yfed, a bydded lawen; bodloned bawb er i fwyn i hun; bydded ganddo ddau wyneb yn barod, ai galon yn ddauddyblyg; bydded gall drosto ei hunan, onid e marw a wna. Ond dymma ffolineb y byd, dymma ynfydrwydd pen agored, canys nid call y dyn ai ceisio ei hun. Y sawl sydd a dau wyneb gantho, mae un o'r ddau yn gythreulig: y neba wenhieitho i ddynion sydd bwdr yn ei galon. Hawdd yw bwytta, yfed, a chwarae gormod, a dawnsio yn y cnawd ar ôl pibell yr ysbryd drwg. Ysbryd y gwaed yw cwmmwl y meddwl. Arfer y byd yw'r porth llydan i ddestryw. A'r sawl na ddringo uwch ei law ei hun, ni eistedd fyth yn y Nefoedd. Mae'r dyn difyr, chwerthinog, allan o'i gôf ei hun, ac o'r tu fewn i gôf y sarph. Amser dyn yw ei gynnyscaeth, a gwae ai gwario yn ofer. Rhaid yw dofi yspryd y cnawd, a magu bywyd