Newid,
y pwnc.Er. Oni ŵyr y pechadur pwy sydd yn aros ynddo?
Col. Na ŵyr, mwy nag y mae'r muriau meirwon yn adnabod y trigianydd. Canys ni fỳn dyn weled y carnlladron o bechodau sydd yn llechu ynddo fel y gweli di y genegoegion a'r pryfed mewn pwll drewllyd.
Er. Gâd hyn heibio yr awron. O ba le y daeth yr holl ddwfr i foddi yr holl fyd?
Col. Allan o drysorau y Goruchaf. Efe a rwygodd y dyfnder mawr ynghalon y greadwriaeth oddi tanodd, ac a egorodd ffenestri element y dwfr oddiarnodd ; a rhwng y ddau ddwfr yn un, fe orchfygwyd pob cnawd er dewred oedd. Ac ar ddydd y farn olaf, fe ddaw tân ysbrydol, a thân naturiol, i farnu ac i brofi'r byd, oddiwrth y Goruchaf, yr hwn sydd ganddo yn ei drysordŷ y tân, a'r gwres, a'r gwynt, a'r glaw, a'r ôd, a'r rhew. Ac ni all un cnawd aros na'î wres na'i oerni ef. Ac fel y gwnaed corph dyn o bedwar defnydd (sef tân, awyr, dwfr a daiar), felly ni all un corph cnawdol spario yr un o'r pedwar, na byw ar awyr heb ffrwyth y ddaiar, nag yn y gwres heb ddwfr, nag yn y dwfr heb y tri eraill: am hyny fe foddwyd pob peth a'r yr oedd anadl y bywyd ynddo, ac fe ddygwyd ysbryd pob cnawd nad oedd yn yr Arch dan gaethiwed y dwfr.
Er. Pam y deuai y dwfr ymma i foddi dynion