hollawl ymhob man ar unwaith. Am hynny y galle Moesen chwedleua âg ef wyneb yn wyneb, canys yr oedd yr holl Dduwdod o flaen ei lygaid ef. Ond ni wêl neb hyn ond y meddwl ysprydol, fel naellir gweled yr haul ond yn ei oleuni ei hunan. Pwy sydd yn gweddio? neu pwy sydd yn pregethu? neu yn rhoi tro yn y byd, ac yn gweled fod yr holl Dduwdod i gyd, sef y Duw mawr, ai holl olwg arno? ac yn deall mai lle y mae ei gariad ef, yno y mae bywyd a pharadwys; ac lle mae ei ddig ef, yno y mae angau ac uffern. Hwn yw'r Duw anfesurol, bendigedig byth, yn ymlonyddu ynddo ei hunan, ac iddo fe bo'r clod ym mhob man yn dragywyddol. Ni ddyle ddyn son am ei enw ef heb barch a chrynfa, canys ynddo y mae pawb yn son am dano. Oi flaen ef y mae'r nefoedd yn diange, a char ei fron ef y mae'r angelion sanctaidd yn ymguddio; ond mae dynion fel anifeiliaid direswm, uffernol, yn rhuo, yn anghofus, yn cablu, yn camarfer y gair, yn tyngu, yn drwg- feddwl, yn melldithio, yn rhegi eraill ai heneidieu ei hunain, heb weled fod y tân aniffoddadwy wrthynt ac ynddynt. Ac mae rhai eraill (druain) yn edrych am Dduw o hirbell, ac hefyd yn gweiddi am dano oddiallan, heb weled fod ffynnon, a gwreiddyn ynddynt, yn ceisio tarddu a thyfu drwyddynt. Canys mae fe gyda phob dyn, er cynddrwg yw, yn goleuo pob dyn ar sydd yn dyfod i'r byd; ond er i fod ef drwy bawb, nid yw fe yn cael aros ond yn
Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/111
Gwedd