ymbell un. Y sawl sydd gantho glust i wrando, gwrandawed.
Er. O Golomen, onid wyti yn blino bellach a siarad am y pethau hyn? Ni fynnwn i mo'th flino di chwaith.
Ofn yr
Eryr.Er. Ond pa fodd y caiff dyn adnabod dydd ei iechydwriaeth?
Col. Tra fo'r adar yn canu—tra fo'r felin yn troi —tra fo'r gwynt yn chwythu—tra fo'r haiarn yn dwymyn—tra fo'r awr hon yn parhau—tra fo'r meddwl yn ymgeisio—tra fo'r gydwybod yn rhybuddio. Cyn diffyg yr anadl—cyn cau porth y ddinas—cyn hedeg or enaid—cyn torri o'r edef—cyn cwympo'r pren—cyn caledu'r ewyllys—cyn serio'r gydwybod—cyn diffodd y ganwyll—cyn passio'r farn—cyn i heddyw ddarfod cyn i'r munud ymma fyned heibio. Dychwelwch, O! blant dynion. Pa hyd yr oedwch gymmeryd bywyd.
Er. Mae llawer yn son am gael i dal ai cymmeryd ar awr dda. Onid oes awr dda i bob un oddiwrth y Planedau?
Col. Mae'r Planedau yn rheoli y meddwl anifeilaidd cnawdol, nes iddo fynd allan o'r corph oddi tan yr haul. Ond mae'r dyn difrif ysbrydol uwchlaw'r holl blanedau yn ei feddwl yn barod, er bod ei gorph ef etto fel anifail. Ir dyn cyndyn nid oes un awr dda, nag i'r dyn nefol un awr ddrwg.