Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Charles Edwards
ar Wicipedia

CHARLES EDWARDS.

Yr wyf yn pigo cryn lawer o ddarnau o "Hanes y Ffydd," prif waith Charles Edwards, a brintiwyd yn 1671. Ychydig o hanes yr awdwr sydd ar gael. Bernir, ar sail a ddywed Gwallter Mechain, iddo gael ei eni yn Rhydycroesau, ym mhlwyf Llansilin, Sir Ddinbych, a dengys ei Gymraeg mai ar odreu Gwynedd y'i magwyd. Mae'n siwr ei fod ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1644, - gan iddo gael ysgoloriaeth yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, ond nis daliodd hi yn hir oherwydd i ystorm y rhyfel fawr rhwng y Brenin Siarls I. a'r Senedd dori ar y Brifysgol. Yn 1648, daeth yn ol i Rhydychen, yn ysgolor yn awr o Goleg yr Iesu, ond trwy gweryl a'i gymrawdwyr, ymadawodd am Gymru, ac yn 1653 fe'i gwelir ym mywoliaeth Llanrhaiadr.

Ystormus fu ei fywyd ar ei hyd. Pan ddaeth y brenin yn ol yn 1660, collodd ei fywoliaeth. Ba yng ngharchar am dymor, ac mewn iselder ysbryd rhoddodd i fyny ei bregethu. Ar ol bywyd priodasol hapus o un mlynedd ar bymtheg, ymadawodd a'i wraig a'i deulu drwy gydsyniad cariadus. Trodd yn ol am Rydychen, ond yr oedd achos Cymru o hyd yn agos at ei galon. Yma, mewn hiraeth dwfn ac mewn tlodi cyfyng ag afiechyd hir, gwnaeth ei oreu tuag at ei fam-wlad trwy ysgrifennu llyfrau Cymraeg, a gweddus oedd i Gymru gael hanes y "Ffydd Ddiffuant" pan oedd, erbyn hyn, yn dechreu dyfod yn gydnabyddus a gwirion- eddau'r efengyl. Gwnaeth lawer o waith arall, ond dyma ei brif waith, yr hwn gafodd ddylanwad mawr ar feddwl Cymru, ag a adargraffwyd lawer gwaith. Treuliodd lawer o amser llafurus yn ei ysgrifennu, ag mae ei Gymraeg mor ystwyth a thlws a Chym- raeg neb byd. [Am hanes ei fywyd, a'i bryder, a'i iselder ysbryd, gweler ysgrif ddyddorol gan Ysgrifennydd Prifathrofa Cymru yn y Traethodydd am 1886].