gariad Crist fy nghymell. O cofiwn yr hwn a fu farw tros bawb, fel na byddei i'r rhai byw fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw trostynt, ac y gyfodwyd. Bu fodlon gan baganiaid wasanaethu eu pobl drwy ddirfawr boen, a chaledi; ac os bu i'r cyfryw chwysu a gwaedu dros eu gwlad, nid ydyw ond peth bychan i Gristianogion yscrifenu er ei mwyn. Y Cymro caredig, o chei lessad wrth ddarllain, treulia ymbell ddeigryn mewn gweddi dros un a dreuliodd lawer mynudyn mewn rhyw fath a'r orchwylion er dy fwyn di, ac felly tal y pwyth ith
gydwladwr anwiw
CHARLES EDWARDS.
- Llundain, mîs
- Ebr, 1677.
- Llundain, mîs
Helynt
Cymru. Wrth a draethwyd y gwelwn gael o'r Britaniaid yr unrhyw rybuddion ac y gafas yr Israeliaid gynt o flaen eu caethiwed, ac ynghylch yr un modd y gwrthodasant hwynt, ac ynghylch yr un fath gystudd a ganlynodd: ac nid heb ei haeddu. Yr achos amlwg o'r destryw ydoedd hollawl bechadurieth pob gradd ar ddynion,—sef barnwyr, eglwyswyr, a chyffredin, a'r ymlygriad a fagodd oddiwrth ymbleidiau yr Arriaid a'r Morganiaid. Pan gymerodd ymddadlau opiniwnus le pregethau iachus, parasant lid yn lle duwioldeb. Aml ryfeloedd hefyd a ostegasant gyfreithiau dinasol ac ysprydol; ac a wnaethant bechaduriaid yn hyfach,