Moddion
gwella
Cymru.Gwelwn yma mor aflesol fu i'n henafiaid amcanu bwrw cystudd oddiwrthynt cyn troi at Dduw drwy edifeirwch. Prifiodd y gwrthryfel hwn, fel un Zedeciah, yn achos o gaethiwed Babilonaidd. Darfu i'r daroganau eu siomi nhw hefyd. Cnawd i bob cenedl dan orthrymder goelio pob bruttiwra'r addaworyddhad iddynt. Cresawai'r Israeliaid y prophwydi gwenhiethus, ond deuai'r peth yn y gwrthwyneb i'r boblanwireddus. Pandorrodd Hananiah y gefyn pren, rhoddes Duw yn ei le iau o haiarn ar eu gwarrau. Dull yr amseroedd Pabaidd hynny, a chystudd gydag hiraeth am warediad, a wnaeth ein henafiaid ni yn dueddol i roi lle i feddyliau ofergoelus. Y newynog a'r sychedig a freuddwydia am lunieth, ond pan deffro gwag a deffygiol fydd ei enaid. Pan gafodd y brenin Arthur y briw marwolaeth i ynys Wydren i'w ddiweddu, er mwyn celu ei farwolaeth, rhag llawenychu ei elynion, na digaloni ei ddeiliaid. Am hynny bu ein gwladwyr ni, gantoedd o flynyddoedd gwedi, yn tybied na buasai ef farw, ond yn brithgoelio y caent ef eilwaith i lywodraethu arnynt fel y taer ddymunent. A phan aeu tywysogion Cymry a'r maes oddiar y Saeson mewn dwy frwydr neu dair, ymhyfaent yn aruthr, gan ddisgwyl cyflawni bruttiau'r prydyddion am gael o'r Britaniaid ail gorescyn yr ynys. A hynny a wnaeth i'r Saeson, o ran gwawd, wisco coron am ben Llewelyn y dorrasent oddi ar ei gorph ef, wrth ei osod ar y tŵr yn Llundain.