Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A dyma fel y cyfieitha Charles Edwards lythyr yr Esgob Morgan at y Frenhines a Thy'r Cyffredin :

"I'r ardderchoccaf Frenhines Elizabeth, gras a bendith yn yr Arglwydd.

Pa gymaint y mae eich mawrhydi chwi, odidoccaf dywysoges, yn nylêd y goruchaf Dduw, nid yn unic ei ryfeddol amddiffin ef yn tarfu y gelynion creulon yn ddiweddar, eithr hefyd y duwioldeb rhagorol, clodfawr drwy'r hollfyd, a pha un yr addurnodd ef eich mawrhydi, sy'n eglur dystiolaethu. A hyn a ddengis pa radlawn ofal ydoedd gan eich mawrhydi chwi am eich Britaniaid, nid amgen na'ch ordinhad drwy awdurdod Parliament y deyrnas i droi yn Gymraeg yr ddwy yscrifen o sanctaidd air Duw, sef yr hen a'r newydd. Yr hyn hefyd sy'n datcan ein syrthni a'n esgeulysder ni, gan nad allai y fath athrwm angenrhaid ein cynhyrfu ni, na chyfraith mor llesol ein cymell ni, fel nad arhosai peth mor bwysfawr, mwy na pha un nis gallai dim fyth fod, cyhyd heb ei gymeryd mewn llaw. Canys y Testament Newydd yn unic a drôdd escob Menyw yn Gymraeg er ys ugain mlynedd, gyda chynorthwy William Salisbury, gwr a haeddai yn dda ar law ein eglwys ni. Nid hawdd mynegi faint o leshad y wnaeth ef i'n gwlad ni wrth y gorchwyl hwnw. Canys y pryd hynny prin y medrai ymbell un bregethu yn Gymraeg, o