herwydd bod y geiriau rheidiol i egluro sanctaidd ddirgeledigaethau yr Scrythyr lân yn Gymraeg wedi myned ar aball, megis wedi eu golchi ymaith a dwfr Lethe; neu wedi eu claddu dan lwch anarfer; mal nas gallau na'r dyscawdwyr agor yn ddigon amlwg yr hyn a ewyllysient, na'r gwrandawyr eu deall; na dirnad pa rai oedd geiriau'r scrythyrau, a pha rai oedd esponiadau o honynt. Yn ddiau pan ymgasclent yn chwannog at bregethau, a bod yn ddyfal ynddynt, etto yn anhyspys ac yn amheus y byddai y rhan fwyaf yn ymadel, megis wedi cael tryssor mawr nis gallent gloddio atto, neu fod mewn gwledd fawr heb gael bwytta o honaw. Ond yn awr, drwy ddirfawr ddaioni y Goruchaf Dduw, a llafur y cyfieithydd hwn, y mae genym fwy o bregethwyr a pharottach, a gwrandawyr hyddyscach. Fel y mae'r ddau beth hyn yn dda gan y duwiol, etto nid yw'r un o'r ddau hyd yn hyn yn gyfattebol i'w dymuniad hwy. Canys gan fod ar ein gwlad ni eisiau yr yscrifen gyntaf honno o air Duw, y sydd ragfynegiad, a darluniad, a thyst ddiogel i'r llall, Och! faint o esamplau, pa nifer o addewidion a chyssuron sydd dan gudd? Pa faint o rybuddion, annogau, a thystiolaethau y mae ein pobl ni o'u hanfodd hebddynt, iechydwriaeth dragwyddol pa rai sydd mewn mawr berygl hyd yn hynn, pan yw pob un i fyw drwy ffydd, a bod ffydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw, yr hwn ni seiniodd ond ychydig i'n cenedl ni hyd yn hyn, gan
Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/124
Gwedd