Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ei fod mewn iaith ddieithr. Am hynny, wrth weled mor llesol ac angenrheidiol ydoedd cyfieithu'r Scrythyrau eraill i'r Gymraeg,-er i atgof o'm gwendid fy hun, a maintioli'r gorchwyl, a drygianiaeth rhai anwydau fy nigalonni yn hir-gan gydsynio â dymuniadau'r duwiol, goddefais fy mherswadio i osod ar y gwaith poenus hwn, a thra anghymeradwy i lawer. A chwedi ei ddechreu, deffygiaswn o ran anhawstra y peth, a maintioli'r gost, a dugaswn bum llyfr Moesen yn unig at y printwasc, oni bai i'r parchediccaf archescob Caer Gaint, achleswr dysceidiaeth, amddiffynwr y gwirionedd, a thirion wrth ein cenedl ni, fy nghymorth a'i haelioni, a'i awdurdod, ac a'i gynghor i fyned ymmlaen. Ar ol ei esampl ef, aeth gwŷr da eraill yn gynnorthwyol i mi; oni chyfieithais i yr Testament Hen i gyd, a diwygiais argraphiad y Newydd.

Os tybia neb mai gwell er mwyn cyttundeb fyddai cymell ein cenedl ni i ddyscu Saesonaeg, na throi'r Scrythyrau i'n hiaith ni, dymunwn arnynt ymogel na yrront grefydd ymmaith wrth hyfforddi cordiad. Er bod yn ddymunol i drigolion yr un ynys siarad yn yr un iaith; etto mae yn gystal i'w ystyried, y gofyn hynny gymmaint o amser a thrafferth i'w ddwyn i ben, oni byddai yn rhy greulon ewyllysio neu oddef pobl Dduw i golli drwy newyn ei air ef yn y cyfrwng. Heblaw hynny diammau y dichon cyssondeb crefydd wneuthur mwy tuag at danghnefedd