Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na chyssondeb iaith. Ac nid duwiol cyfrif budd yn well na chrefydd, a chordiad addiallan yn well na'r heddwch y mae gair Duw yn ei seilio ymmeddyliau dynion. Yn olaf, mor annoeth yw y rhai y dybiant, pe gwarafunid gair Duw yn ein hiaith mammawl, yr annogai hynny i ddyscu un arall. Canys bydd crefydd yn anadnabyddus onis dyscir yn iaith y cyffredin; a'r peth y bo un heb adnabod ei felysdra a'i werthfawrogrwydd, ni chymmer ddim poen er mwyn ei gael. Am hynny attolugwn ar eich mawrhydi i'r rhai y rhoddasoch un fron y gwirionedd eusus, ganhiadu yr llall, fel y clodforo pob tafod Dduw."


Canlyniad
cyfieithu'r
Yscrythur
Ond er pan ddaeth yr scrythyrau yn Gymraeg i'n plith, y mae'r helynt orau ar ein cenedl ni ac y fu ers llawer o genedlaethau. Rhoddes Duw iddi heddwch oddiamgylch. Ni wyr y to presennol oddiwrth y cyfyngdra gofidus ydoedd gynefin i'n henafiaid ni gynt. Y mae'r Saeson oeddent fleiddiaid rheibus, wedi myned i ni yn fugeiliaid ymgeleddgar, ac agos cyn hynawsed wrthym ni ac ydym ni wrth ein gilidd. Y nhwy fu'n preintio ein llyfrau ni, ac yn dyscu celfyddydau i ni; ac yn marchnatta â'n gwlad, nid wrth y dur a'r haiarn, ond yr aur a'r arian. Yr hon sydd yn awr lawnach o ddynion ac o olud nag y fu ers talm o'r blaen; a'n celloedd yn llawn o bob rhyw luniaeth, a'n defaid yn dwyn myrddiwn, a'n hychen