Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/127

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gryfion i lafurio, heb na rhuthro i mewn, na myned allan, na gwaedd yn ein heolydd. Mae gwybodaeth wedi amlhau, a'r cythreuliaid yn y coedydd wedi distewi. Mae ein moddion hefyd wedi rhywiogeiddio llawer. Nid oes mo'r fath yspeilio, a threisio, a mwrdro ag y glywsom ni gan ein henafiaid ei fod yn eu mysc er's talm. Mae Powys yn weddus wrth fel y bu. Mae Lloegr yn agored i ni hefyd, a chyn hyfed ini breswylio ynddi mewn cyfiawnder ac oedd i'n hen rieni ni cyn ei cholli. Ni bu ein cenedl ni yn yr Iwerddon erioed amlach. A diammeu pe cryfhaeu ufudd-dod i air Duw yn ein mysc ni, ychwanegid at ein trugareddau ni. Canys gwyn fyd y bobl y mae'r Arglwydd yn Dduw iddynt. Er gorwedd o honynt ymmysc y crochanau, byddant fel escyll colommen wedi eu gwisco ag arian, a'i hadenydd ag aur melyn. Ynteu nag anghyttuna ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, a'r athrawiaeth sydd ar ol duwioldeb. Os ewyllysi yn dda i'r wlad, a gweled dyddiau da, gochel y drwg, a gwna y da. Am hynny dywedaf wrth y Cymro a ryddhawyd, yn ol y siarse y roddes Christ ar y clwyfus a iachawyd, "Wele ti a wnaethpwyd yn iach, na phecha mwyach, rhag digwydd i ti beth a fyddo gwaeth."


Tâl
Duw.
"Ni ddileir y caredigrwydd a wneler i deml yr Arglwydd," ac ni phalla ei wobr. Pan gyfrannodd Dafydd ei feddwl