Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/128

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i'r prophwyd Nathan, ei fod ef ar fedr adeiladu ty i Dduw, y nosson honno mynegodd Duw y gwnai ef dŷ iddo yntef; ac a'i cwplaodd yn helaeth. Pan swccrodd Obed Edom arch Dduw, cafodd daledigaeth syber a hynod, oni fynegwyd i'r brenin, gan ddywedyd, -" Yr Arglwydd a fendithiodd Dŷ Obed Edom, a'r hyn oll oedd ganddo, er mwyn arch Dduw." Diandlawd ydoedd y fendith a lonnodd gymaint oll ac oedd eiddo ef. Y tarth a weler yn escyn i fynu, a fydd sicer o ddescyn i lawr eilwaith yn law ffrwythlon. Ac felly y gwnaiff anadliad y galon rasol, y fyddo â'r ewyllis ac a'r gallu yn ymgodi at bethau perthynol i deyrnas nef, gan ddychwelyd â chafodydd o fendithion aml. Ni bydd y nef yn nyled y ddaiar, yr hyn a wyddai Salomon yn hy-dda wrth ei brawf a'i lwyddiant ryfeddol wedi iddo adeiladu'r deml. Am hynny yn ei ddoethineb a'i serch, cynghorodd ei fab, gan ddywedyd, -" Anrhydedda yr Arglwydd a'th gyfoeth, ac a'r peth pennaf o'th holl ffrwyth; felly y llenwir dy yscuboriau â digonoldeb, a'th winwyryfoedd a dorrant gan win newydd." Ac nid yn y byd yma yn unig y ceir tal am yr hyn a dreulier ar wasanaeth Duw, eithr yn y byd arall hefyd. Pan gipio marwolaeth y rhai didda at benyd a phrinder dragwyddol caiff y goruchwylwyr ffyddlon a arferant eu talentau yngwasanaeth eu Harglwydd dryssor yn y nefoedd yr hwn ni dderfydd, a chynhalieth ogoneddus byth.