nesaf.' Wedi iddo fod ennyd yn bwrw celanedd i'w geubal ddiwala, parodd roi dyfyn i'w ddeiliaid, ac a symmudodd o'r allor i orseddfainc echryslawn dra uchel, i fwrw'r carcharorion newydd ddyfod. Mewn mynyd, dyma'r meirw, fwy na rhif o fynteioedd, yn gwneyd eu moes i'r brenin, ac yn cymmeryd eu lle mewn trefn odiaêth. A'r brenin Angeu yn ei freninwisg o ysgarlad gloewgoch, ag hyd—ddi luniau gwragedd a phlant yn wylo, a gwŷr yn ocheneidio; ac am ei ben gap dugoch trichonglog (a yrasai ei gâr Luciffer yn anrheg iddo); ar ei gonglau ysgrifenasid, 'Galar, a gruddfan, a gwae.' Uwch ei ben yr oedd myrdd o luniau rhyfeloedd ar for a thir; trefi yn llosgi, y ddaiar yn ymagor, a'r dwr diluw; a than ei draed nid oedd ond coronau a theyrnwiail yr holl frenhinoedd a orchfygasai fe erioed. Ar ei law ddeheu yr oedd Tynged yn eistedd, ac à golwg ddu ddel yn darllen anferth lyfr oedd o'i flaen: ac ar y llaw aswy yr oedd henddyn a elwid amser, yn dylifo aneirif o edafedd aur, ac edafedd arian, a chopr, a haiarn lawer iawn, ac ambell edyf yn prifio yn well at ei diwedd ; a myrddiwn yn prifio yn waeth. Hyd yr edafedd yr oedd oriau, diwrnodau, a blynyddoedd; a Thynged wrth ei lyfr yn tori yr edafedd einioes, ac yn egor drysau'r wal derfyn rhwng y ddau fyd.
Ni chawswn i fawr edrych na chlywn alw at y bar bedwar o ffidleriaid oedd newydd farw. Pa fodd,' ebr brenin y dychryn, 'a daed genych lawenydd,