dreigiau mellt ysgethrin yn rhwygo'r mwg dudew yr oedd y safn anferth yn ei fwrw i fyny! Pan ddadebrodd fy anwyl gydymaith fi, rhoes i mi ryw ddwr ysbrydol i'w yfed; O odidoced oedd ei flas a'i liw ! Pan yfais y dwr nefol, clywn nerth rhyfeddol yn dyfod imi, a synwyr, a chalon, a ffydd, ac amryw rinweddau nefol ereill. Ac erbyn hyn, neseais gydag e'n ddiarswyd, at fin y dibyn, yn y llen, a'r fflamau yn ymranu o'n deutu, ac yn ein gochel, heb feiddio cyffwrdd â thrigolion Gwlad Uchelder. Yna o ben y geulan anaele, ymollyngasom, fel y gwelit ti ddwy seren yn syrthio o entrych nef, i lawr a ni fil filiwn o filltiroedd tros lawer o greigiau brwmstan, a llawer anfad raiadr gwrthun, a chlogwyn eirias, a phob peth â gwg crogedig ar i waered fyth; eto yr oeddynt oll yn ein gochel ni; oddi eithr unwaith yr estynais fy nhrwyn allan o'r llen gel, tarawodd y fath archfa fi o fygfeydd a thagfeydd ag a'm gorphenasai, oni buasai iddo yn ddisymmwth fy achub â'r dwr bywiol. Erbyn i mi ddadebru, gwelwn ein bod wedi dyfod i ryw sefyllfod; canys yn yr holl geg anferthol hòno, nid oedd bosibl ddim cynt gael attreg, gan serthed a llithriced ydoedd. Yno gadawodd fy Nhywysog i mi orphwys peth drachefn; ac yn hyny o seibiant dygwyddodd i'r taranau a'r corwyntoedd croch ddystewi gronyn; ac heb waethaf i swn y rhaiadrydd geirwon, mi a glywn o hirbell swn arall mwy na'r cwbl, o grochleisiau echrys, bonllefain, gwaeddi, ac ochain
Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/140
Gwedd