fyth fythoedd yn tagu, rhag cael ym mlaen waeth lletty; ond fel y mae'r ddiareb, 'Rhaid i hwnw redeg y bo diawl yn ei yru;' felly gan y diawliaid oedd o'u hol, yr oedd yn gorfod i'r damniaid hyn fyned ym mlaen hyd y feisdon ddinystriol i'w dienydd tragwyddol; lle gwelais innau, ar y golwg cyntaf, fwy nag a all tafod dyn ei ddychymmyg, chweithach tafod ei draethu, o arteithiau a dirboenau; a digon oedd gweled un o honynt er gwneyd i'r gwallt sefyll, i'r gwaed fferu, i'r cnawd doddi, i'r esgyrn ymollwng, ïe, i'r ysbryd lewgu. Beth yw polioni neu lifio dynion yn fyw, tynu'r cnawd yn dameidiau â gwrthrimynod heirn, neu friwlio cig â chanwyllau o fesur golwyth, neu wasgu penglogau yn lledfenau mewn gwasg, a'r holl ddirmyg erchyllaf fu erioed ar y ddaiar? Nid ydynt oll ond megys difyrwch wrth un o'r rhai hyn. Yma, fil can mil o floeddiadau ac ebychiau hyllgryg, ac ocheneidiau cryfion; draw wylofain croch, ac aruthrol gri yn eu hateb; ac mae udfa cŵn yn ber fiwsig flasus wrth y lleisiau yma. Pan aethom ronyn ym mlaen o'r feisdon felltigedig i wyllt Distryw, wrth eu tân eu hunain, canfum aneirif o feibion a merched yma a thraw; a diawliaid heb rifedi, ac heb orphwys, â'u holl egni, yn dal byth i'w harteithio; ac fel y gwaeddai'r diawliaid gan eu poen eu hunain, gwnaent i'r damniaid eu hateb hyd adref. Deliais fanylach sylw ar y cwr oedd nesaf ataf: gwelwn y diawliaid, a phicffyrch, yn eu taflu i ddisgyn ar eu
Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/142
Gwedd