ei hun i farw trostynt, eto yr wyf fi wrth fy nheganau, yn mynu deg enaid am un a gaffo Fo gyda'i Fab croeshoeliedig. Ac er na chyrhaeddwn ei gyffwrdd Ef yn y goruchafon, sy'n ergydio'r taranau anorchfygol; eto melus yw dial rywffordd. Gorphenwn ninnau ddifa'r gweddill sy o ddynion yn ffafr ein Distrywiwr ni. Mae yn gof genyf yr amser y parasoch iddynt losgi yn fyddinoedd ac yn ddinasoedd, ïe, i ddaiar-lwyth cyfan ddisgyn trwy'r dwr atom ni i'r tân. Ond yr awran, er nad yw eich nerth a'ch creulonder naturiol ronyn llai, eto yr ych chwi wedi rhyw ddiogi: ac oni bai hyny, gallasem fod er's talm wedi difa yr ychydig rai duwiol, ac wedi ennill y ddaiar i fod yn un â'r llywodraeth fawr yma. Ond gwybyddwch hyn weinidogion duon fy nigofaint, oni byddwch glewach a phrysurach weithian, a byred yw ein hamser ni, myn Annwn a distryw, ac myn y Fagddu fawr dragwyddol, cewch brofi pwys fy llid arnoch eich hunain yn gyntaf, mewn poenau newyddion a dyeithriol i'r hynaf o honoch.' Ac ar hyn, fe guchiodd oni chymylodd y llys yn saith dduach nag o'r blaen.
Perygl
HawddfydYma gwelwn yr holl brif gythreuliaid a'u cegau tra erchyll yn egored ar Luciffer, i ddysgwyl beth bosibl a allai hwn fod; a minnau cyn rhyhwyred genyf glywed a hwythau.
'Un,' ebr Luciffer, 'y bûm i yn rhy hir heb