gwpan Hawddfyd; cewch weled y llafurwr diwyd yn troi yn llefarwr diofal ysmala; a phob peth arall wrth eich bodd. O blegid Hawddfyd hyfryd yw cais a chariad pawb; hithau ni chlyw gynghor, nid ofna gerydd; os da, nid edwyn; os drwg hi a'i meithrin. Hon yw'r brif brofedigaeth; y dyn a ymgadwo rhag ei swynion mwynion hi, gellwch daflu eich cap iddo; ffarwel i ni byth am gwmni hwnw. Hawddfyd, ynte, yw fy rhaglaw ddaiaroli; dilynwch hon i Brydain, ac ufuddhëwch iddi, megys i'n breninol oruchelder ni ein hunain.'
Cawres
Uffern
Eithaf.Ar hyn, gwyntiwyd y follt fawr, a tharawyd Luciffer a'i ben-cynghoriaid i sugnedd Uffern Eithaf; ac och fyth erwined oedd weled ceg Annwn yn ymagor i'w derbyn! 'Wel,' eb yr Angel, 'weithian ni a ddychwelwn: ond ni welaist ti eto ddim wrth y cwbl sydd o fewn cyffiniau Distryw; a phe gwelsit y cwbl, nid yw hyny eto ddim wrth sydd o drueni annhraethawl yn Annwn; canys nid yw bosibl bwrw amcan ar y byd sy'n Uffern Eithaf.' A chyda'r gair fe a'm cipiodd yr Eryr nefol fi i entrych y Fagddu felltigedig, ffordd nas gwelswn, lle ces o'r llys hyd holl ffurfafen y Distryw duboeth, a holl dir anghof, hyd at gaerau'r Ddinas Ddienydd, lawn olwg ar yr anfad anghenfil o Gawres y gwelswn ei thraed hi o'r blaen. 'Ac nis meddaf mo'r geiriau i ddatgan ei moddion