THEOPHILUS EVANS.
MAE enw Theophilus Evans yn gysylltiedig, i bob un sy'n darllen llenyddiaeth Gymreig, a'i brif waith, "Drych y Prif Oesoedd," a gyhoeddwyd yn 1716, ac a ail-argraffwyd gyda llawer o ychwanegiadau gan yr awdwr yn 1740. Mae'r gwaith yma yn ddwy ran, y rhan gyntaf yn ymdrin a rhyfeloedd a bywyd gwladol yr hen Gymry, a'r ail ran yn adrodd hanes eu moes a'u crefydd. Y mae y llyfr drwyddo draw wedi ei ysgrifennu mewn iaith ystwyth, gyfoethog, ac mewn arddull dlos a byw. Y mae mewn gwirionedd yn waith mawr ei fywyd, oherwydd treuliodd y rhan fwyaf o'i amser i chwilio allan hen awduron am oleuni ar hanes bywyd ei gydgenedl,—cenedl ag sydd a llawer o niwl a thywyllwch yn cuddio dyddiau ei mabandod o'r golwg.
Fe anwyd Theophilus Evans yn 1694, yn bumed mab Pen y Wenallt, ym mhlwyf Llandygwydd, yn agos i Gastell Newydd Emlyn, ar gyffin Ceredigion a Chaerfyrddin,—lle ddaeth yn hynod yn hanes llenyddiaeth ein gwlad, gan mai yn yr ardal honno y ceir yr argraffwasg gyntaf yng Nghymru. Pan yn bump ar hugain oed, cafodd ei lawn urddo yn offeiriad, a'i guradiaeth gyntaf oedd Tir-yr-Abad, ym Mrycheiniog. Gwelir felly ei fod wedi dwyn allan ei "Ddrych" cyn cymeryd ar ei ysgwyddau lawn urdd eglwys. Symudodd amryw weithiau yn ei fywyd,—i Lanlleonfel, i Lanynys, i Langamarch, i Lanfaes Aberhonddu,—ond nid aeth oddiallan i Sir Frycheiniog. Gwan oedd ei iechyd ar hyd ei oes,—a dywedir mai ef oedd y cyntaf i ganfod rhinwedd meddygol dwfr naturiol y sir,—eto bu fyw yn henwr pymtheg a thrigain oed. Cyfieithodd amryw lyfrau llyfrau ddangosent ddrygioni pob math o sect—a chyhoeddodd amryw bregethau, a pharhaodd hyd ei fedd yn bregethwr hyawdl ac yn efrydydd diball.
Y mae y darnau a ddetholir o'i waith wedi eu dewis o'r Rhan I. o'r "Drych."