Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/151

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Undeb
Cymru a
Ffrainc.
Ond yma yr wyf yn barod eisys i goelio, y bydd rhai yn dywedyd nad yw y rhai hyn ond chwedlau gwneuthur, fod y Cymry unwaith yn byw yn Ffrainc, ac mor enwog yn y byd am eu gwroldeb. Ond er annhebyced y tybir hyny yn awr, nid oes, er hyny, un peth wirach mewn histori. Canys, nid i son fod ym mysg y ddwy genedl, sef trigolion Ffrainc a'n hynafiaid ninnau o'r ynys hon, yr unrhyw ddefodau ac arferion, yr unrhyw grefydd ac adnabyddiaeth o'r Duwdod, yr unrhyw fath o offeiriaid a Derwyddon—i adael hyn heibio, meddaf (ac eto yr ydys yn haeru llawer peth ar waeth rhesymau), y mae Iul Caisaryr hwn a ysgrifenodd agos er ys deunaw cant o Aynyddoedd a aethont heibio, a'r hwn a fu dros ddeng mlynedd yn rhyfela yn Ffrainc, ac a fu ryw ychydig ym Mrydain—y mae Iul Caisar,—meddaf, yn dywedyd ar ei air yn oleu, fod tafodiaith y ddwy deyrnas yn bur debyg i'w gilydd, hyd ddim a allasai efe farnu wrth glywed trigolion y naill deyrnas a'r llall yn siarad. Y mae awdwr arall, a ysgrifenodd o gylch hanner cant o flynyddoedd ar ol Iul Caisar, ac un arall o gylch deugain mlynedd ar ol hyny, yn tystio ill dau yr un peth, nad oedd ond y dim lleiaf o wahaniaeth rhwng iaith y naill deyrnas a'r llall, sef rhwng iaith