trigolion Ffrainc a'n hynafiaid ninnau, y rhai oeddent yn byw y pryd hyny yn Lloegr. Fe allasai fod, ond odid, gymmaint o wahaniaeth a rhwng Gwynedd a Deheudir, neu feallai, ryw ychydig chwaneg. Ond beth er hyny? Diammheu mai'r un bobl oeddent o'r dechreuad.
Hefyd, heb law cyssondeb yr iaith, ystyried un dyn nesed yw teyrnas Ffrainc i Loegr: nid oes ond cainc o fôr rhyngddynt, lle y gall dyn â llygad craffus ganfod o'r naill lan i'r lan arall, ar ddiwrnod dysglaer. Ynys Brydain, gan hyny, yn ddiammheu a boblwyd ar y cyntaf allan o'r wlad nesafati, megys y poblwyd yr Iwerddon allan o'r wlad hon.
Afarwyac
ac ail ymgyrch
Iul Caisar.Ac o ran ei fod efe yn gwybod mai hen gadnaw oedd Iul Caisar, ac nad oedd ond ofer iddo dybied y rhoisid coel idd ei eiriau heb ryw feichnïaeth, y bradwr Afarwy a anfonodd ei fab, yng nghyd â deuddeg ar hugain o farchogion, i ddwyn y llythyr at Iul Caisar, ac hefyd i fod yn wystlon o fod ei amcan ef yn gywir. Bywiogodd hyn galon Caisar, ac nid allasai un peth yn y byd ddygwydd yn fwy dymunol ganddo; ond eto o herwydd na chafas efe ond groesaw cyn hagred, a gorfod arno ffoi a throi ei gefn y waith gyntaf, efe a ddaeth yn awr yn llidiog ac yn hyderus, yr ail waith; canys lle nid oedd ganddo ond pedwar ugain ysgraff (neu o longau) y tro cyntaf, i fordwyo ei wŷr drosodd