Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/153

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i Frydain, yr oedd ganddo yn awr wyth cant, a nifer ei sawdwyr y tro hwn oedd tair mil ar ddeg ar hugain a thri chant a deg ar hugain o wŷr traed, a'r un nifer hefyd o wŷr meirch; sef oedd eu rhifedi gyda'u gilydd, chwech mil a thrugain, a chwech cant a thri ugain; agos i gan mil o wŷr arfog, a'r rhei'ny, gan mwyaf, yn rhyfelwyr o'u mebyd. Beth a allai sefyll yn erbyn y fath lu mawr a hwnw! ac ni wyddys pa nifer o filoedd oedd gan y bradwr Afarwy i fod yn blaid a hwy! Acy mae un bradwr cartrefol (a melltith ei fam a gaffo pob cyfryw un byth) yn waeth na chant o elynion pellenig; canys y mae y bradwr gartref yn gydnabyddus â phob amddiffynfa a lloches, a lle dirgel, lle y mae dim mantais i'w gael. Ond er hyn oll, ni fu i Iul Caisar ddim achos mawr i orfoleddu o'i daith, na chlod chwaith gan ei gydwladwyr yn Rhufain. Canys yr oedd y Brytaniaid wedi pwyo, yng ngwaelod Tems, farau heiyrn erchyll â phigau llymion, y rhai nid allai neb eu canfod o yma draw, am eu bod droedfedd neu ddwy dan y dwfr; a phan ddaeth llongau Caisar yn ddiarwybod ar draws y rhei'ny, gwae fi! pa waeddi wbwb a therfysg oedd, ar hyny, ym mysg sawdwyr Rhufain; y pigau dur yn rhwygo yr ysgraffau, a hwythau yn soddi ar fin y lan; a'r Brytaniaid hwythau ar dir sych, yn llawen am weled eu dyfais yn llwyddo cystal. Y mae yn hawdd i farnu (pe bai hyny ond oddi yma yn unig), nad oedd yr hen Frytaniaid ddim cyn anfedrused pobl ag y mae rhai