Nid oes yn wir ddim hanes neillduol o blegid pa ddrygau a wnaeth y Brithwyr a'u cyfeillion dros rai blynyddoedd ar ol eu herlid y waith hon, oddi eithr eu bod yn lledrata gyr o dda a defaid, a llosgi ambell bentref, yn awr a phryd arall, ac yna chwipyn ar gerdded; megys barcut ar gip yn dwyn cyw, ac yna ymaith gynted ag y gallo. Ond pan gydnabu y Brithwyr fod y Brytaniaid wedi gadael eu cleddyfau i rydu, a bod math o hyrtrwydd wedi eu perchenogi, megys rhai yn dylyfu gên rhwng cysgu a pheidio, yna danfon a wnaethant at eu hen gyfeillion, y Ffrancod a'r Seison, a'u gwahawdd trosodd i wneuthur pen ar bobl ddidoraeth a musgrell, nad oeddent dda i ddim ond i dwymno eu crimpau wrth bentan, ac ymlenwi.
Y Brytaniaid yn ddilys ddiammheu ar hyn o amser, oeddent wedi dirywio yn hagr oddi wrth eu gwroldeb gynt; canys yna, ar waith y Brithwyr a'u cyfeillion yn rhuthro arnynt, nid oedd galon yn neb i sefyll yn eu herbyn, mwy nag a all crug o ddail ar ben twyn sefyll yn erbyn gwth o wynt. Er lleied o wŷr arfog oedd y pryd hwnw ym Mrydain, eto pe buasent yn galw ar Dduw am ei gymhorth, ac yn ymwroli, byth ni fuasai i fath dreigl ladronach ag oedd eu gelynion yn awr yn eu sathru mor ddidaro, ac heb godi llaw yn eu herbyn; ond hwynt-hwy digaloni a wnaethant, ac yn lle arfogi eu hieuenctyd, a'u hannog i hogi eu cleddyfau, a anfonasant lythyr