Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/157

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cwynfanus at eu hen feistriaid, y Rhufeiniaid, yn taer ymbil am gymhorth i yru y barbariaid allan o'u gwlad. Prin y gallasent ddysgwyl y fath ffafr y pryd hwnw, am fod mwy na gwaith gan y Rhufeiniaid gartref, ac hefyd yn eu cof yn ddigon da wrthryfel Macsen Wledig; eto yr ymherawdr a dosturiodd wrthynt, ac a ddanfonodd leng o wŷr dewisol, h.y., o gylch saith mil, neu medd ereill, 6666. Cyn gynted ag y tiriasant, y chwedl a aeth allan (a chwedl a gynnydda fel caseg eira) fod yma bump lleng wedi dyfod; ac ar hyny y Brithwyr y rhai oeddent yn anrheithio canol y wlad a ffoisant ymaith y tu hwnt i Wal Sefer, i'r anialwch ac i'r Iwerddon; ond y rhai o gylch Llundain a glan Tafwysg a wanwyd â chleddyf y Rhufeiniaid. O gylch oedran Crist 418 y bu hyny.


Gwahodd
y Saeson.
Felly Gwrtheyrn, ar ol ymgynghori â'i benaethiaid, a anfonodd bedwar o wŷr anrhydeddus ei lys i wneuthur ammod â'r Seison, a'u gwahodd hwy drosodd i Frydain, sef oedd enwau y pendefigion hyny, Cadwaladr ab Tudur Ruddfaog, Rhydderch ab Cadwgan Freichfras, Meurig ab Trehaern, a Gwrgant ab Maelgwn Ynad, heb law ereill o is radd yn osgordd iddynt. Ac yna wedi myned i ben eu siwrnai, os gwir a ddywed cronicl y Seison (canys Sais cynhenyd sydd yn adrodd hyn o fater, ond nid oes air yn un cronicl Cymraeg