Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am dano), y cenhadon a wnaethant araith ger bron eisteddfod o Seison, yn y geiriau hyn :—"Nyni, y Brytaniaid truain, wedi ein harcholli a'n blin gystuddio gan aml ruthrau ein gelynion, ym yn deisyf eich porth a'ch nawdd yn y cyfyngdra trallodus y'n dygpwyd ynddo ar hyn o bryd. Ein gwlad sydd eang ddigon, flwch a diamdlawd o bob peth buddiol i gynnaliaeth dyn; cewch feddiant ynddi; digon yw hi ini a chwithau. Hyd yn hyn y bu y Rhufeiniaid yn ymgeleddwyr tirion i ni; nesaf at ba rai ni adwaenom neb a roddes brawf mor helaeth o'u grymusdra a chwychwi. Bydded i'ch arfau seinio allan eich gwroldeb yn Ynys Brydain ; ac ni fydd flin genym wneuthur o'n rhan ninnau, un fath o wasanaeth a esyd eich ardderchawgrwydd arnom." Ac yna yr atebodd y Seison wrth fodd eu calonau, gan ddywedyd, "Chwi ellwch hyderu arno, Frytaniaid anrhydeddus, y bydd y Seison yn geraint cywir i chwi, ac yn barodol i'ch cynnorthwyo yn yr ing a'r trallod mwyaf." Y gwirionedd yw, nid yw yr araith hon ond chwedl gwneuthur y Sais; nid dim ond ei ddychymmyg ei hun; canys nid oedd awdurdod y cenadon a ddanfonwyd at y Seison ddim amgen ond ammodi a hwy er cymmaint a chymmaint o gyflog, megys y gallent hwy gytuno arno. Nid oedd air o son am gael meddiant mewn un cwr o'r deyrnas.

Yr oedd ambell un, y rhai oedd â'u synwyrau yn effro, yn darogan y wir chwedl, ac yn ofidus eu