Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arfau rhyfel; canys er na allent fod yn nifer fawr iawn, pan y gallasai tair llong eu dwyn, eto, a hwy yn awr yn borth i'r llu egwan oedd yn y deyrnas eisys, y Brithwyr a wasgarwyd, eu byddinoedd a ddrylliwyd, a Niawl Môr Mac Flan a dorodd ei wddf ar ei waith yn ffoi yn frawychus ac yn fyrbwyll.


Ymladd
dewr.
Emrys Benaur oedd yn awr eu brenin, yr hwn a fu ben capten y llu yn amser Gwrthefyr Fendigaid, megys y soniwyd o'r blaen; a chymmaint oedd ei glod wedi eangu dros yr holl deyrnas, fel prin yr oedd wr o ugain i hanner cant oed, oni chwennychai ddwyn arfau dano. A gwŷr Gwynedd a Deheudir hefyd ar hyn o bryd a ddaethant yn gymhorth cyfamserol idd eu brodyr yn Lloegr; ac yn wir, achos da pa ham; canys fe rydd pob un fenthyg ei law i ddiffodd ty ar dân; a phob un a ymgyfyd ei arf yn ei law i daro ci cynddeiriog yn ei dalcen. Felly, a hwy yn awr yn llu cadarn, a'u hymddiried yn yr Arglwydd, myned a wnaethant yn uniongyrch, a danfon gwŷs at y gelynion i ymadael o Frydain; neu od oedd calon ynddynt i ymladd, deuent i'r maes, ac ymladdent yn deg, ac nid fel bradwyr yn cynllwyn am waed dan rith cyfeillion. Hengist gan hyny a wrychiodd (canys yr oedd yr hen gadnaw yn fyw byth, ac yn awr o gylch saith a thrigain oed); ac ar ol ymgynghori a'i frawd Hors, ac ereill o'i gapteniaid, efe a atebodd i'r pen