Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/161

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhingyll a anfonasai Emrys ato, fod ganddo ef "gystal hawl yn y tir a oresgynasai efe drwy nerth arfau, a'r goreu o'r Brytaniaid. Seren bren am eu bygwl."

Ar hyny, ryw bryd ym mis Mai, yn y flwyddyn o oedran Crist, 484, y bu ymladdfa greulawn rhwng y ddwy genedl; y naill yn ymwroli er gyru estrongenedl, bradwyr a mwrddwyr, allan o'u gwlad, a'r llall yn ffyrnigo fel ellyllon, er cadw craff yn eu trawsfeddiant anghyfiawn. Ar ol cwympo cannoedd o bob parth, yn enwedig o blaid y Seison, dynesäu a wnaethant yn dra llidiog i ymladd law-law; a chethin oedd yr olwg i weled rhai wedi eu hollti yn eu canol, rhai â'u hymysgaroedd allan, rhai yn fyr o fraich, ac ereill yn fyr o goes. Hors a wanwyd yn ei wddf, a Hengist a ddaliwyd yn garcharor, a'r lleill, ar hyny, a ffoisant, ond y rhan fwyaf yn archolledig a dart yn eu tu ol. Y sawdwyr yno a lusgasant Hengist gerfydd ei farf, tua phabell y brenin; a phan oedd dadl yn eu mysg yng nghylch pa beth a wneid o hono, Dyfrig, Archesgob Caerlleon ar Wysg, a gododd ar ei draed, ac a ddywad, "Petai bob un o honoch chwi am ei ryddhau ef, myfi, ïe myfi, ag wyf yn esgob, a'i drylliwn ef yn chwilfriw; canys mi a ganlynwn esampl y prophwyd Samuel, yr hwn, pan oedd Agag, Brenin Amalec, yn ei law, a ddywedodd, 'Fel y diblantodd dy gleddyf di wragedd, felly y diblentir dy fam dithau ym mysg gwragedd. A Samuel a ddarniodd Agag ger bron yr Arglwydd yn Gilgal.' (I Sam. xv. 33.)