Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Clasuron Rhyddiaith Cymru.djvu/162

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwnewch chwithau, anwyl wŷr," eb efe, "yr un ffunud i Hengist, yr hwn sydd megis ail Agag." Ac ar hyny, Eidiol, Iarll Caerloew, a ruthrodd arno, ac a'i lladdodd. Gyda bod y cleddyf yn ei boten, yno chwi a welech yr holl lu yn gwasgaru rhai yma, rhai acw, i geisio bob un ei gareg i daflu arno; a chyn nosi, yr oedd yno gryn garn ar ei ben, megys yr oeddid yn arferol o wneuthur â drwg weithredwyr, y rhai, oddi yma a gyfenwir yn "garn ladron."


Lladd
Emrys.

Emrys, brenin y Brytaniaid, yn y cyfamser oedd yn glaf yng Nghaerwent; ac hyfryd iawn oedd y newydd yng nghlustiau Pascen, ac a ddymunasai o eigion calon ei fod efe mewn rhyw le arall nag yn nhir y rhai byw. Ac yno neidio wnaeth y diawl i galon Pascen, a dyfalu ffordd i ladd y brenin; ac fe wyddai eisys fod ganddo Sais yn ei gymdeithas (Eppa oedd ei enw) o gystal un at y fath orchwyl ag a fu erioed yn ysgoldy Belzebub. Yr oedd efe yn deall y iaith Gymraeg, yn ryw ychydig o feddyg, ac yn ddyn dewr ystrywgar hefyd. Ac fel y bai efe fod yn fradwr hollol, efe a ymrithiodd megys offeiriad, ac eto yn deall meddyginiaeth. "Wele yn awr," ebe Pascen wrtho, "dos a llwydda; a gwybydd fyned yn ebrwydd at y Seison, i Isgoed Celyddon ar ol gwneuthur o honot dy orchwyl: a danfon air ataf finnau." Y Sais, mewn rhith gwr crefyddol, ac yn un yn deall meddyginiaeth, a gas