fynediad yn hawdd i lys y brenin, ac a roddes iddo ddïod o lysiau a gasglodd efe o'r ardd, yng ngwydd pawb; ond efe yn ddirgel a gymysgodd wenwyn â hi, ac o fesur cam a cham a ddiflanodd o'r golwg; a phrin y gorphwysodd efe yn iawn nes myned â'r newydd at ei gydwladwyr i Isgoed Celyddon, a'u hannog i wisgo eu harfau.
Rheolau'r
Ford
Gron.Yr oedd gan Arthur amryw lysoedd heb law ei ben palas yn Llundain: ambell waith yng Nghaer y Gamlas, dinas hyfryd gynt yng Ngwlad yr Haf; ambell waith mewn lle a elwid y Gelli Wyg, yng Ngherniw; ac yn fynych yng Nghaerlleon ar Wysg, yr hon oedd gynt y drydedd ddinas o ran tegwch a maint drwy yr holl deyrnas, ac yn eisteddfa archesgobaeth.
Ac efe yn wr call i ragachub cynhen ym mysg ei farchogion yng nghylch y lle uchaf ar y bwrdd, dywedir mai efe oedd y cyntaf a ddyfeisiodd y ford gron, fel y gallai pawb eistedd blith draphlith yn ddiwahân, heb ddim ymryson am oruchafiaeth. A'r rhai hyn yw y cynneddfau a ofynid gan bob un o farchogion Arthur, y rhai y caniatëid iddynt eistedd ar ei fwrdd ei hun :
"1. Y dylai pob marchog gadw arfau da, ac yn barod at bob rhyw wasanaeth a osodid arno, ai ar fôr ai ar dir.
"2. Y dylai yn wastad wneyd ei oreu er